-
'When I'm 64' - how Early Supported Discharge helped my stroke recovery
- 2023/06/23
- 再生時間: 44 分
- ポッドキャスト
-
サマリー
あらすじ・解説
'When I'm 64' - how Early Supported Discharge helped my stroke recovery
In the latest episode of our podcast series we speak to stroke survivor Peter Walton, from Llandudno.
Peter was manager of a large nursing home in Bangor, physically fit and enjoying life.
On his 64th birthday last September he was getting ready to enjoy the celebration at his home when he suddenly felt, in his own words, like he was "walking on the moon".
His daughter and his ex-wife came to his aid and they quickly realised he was having a stroke.
Speaking frankly, he explains the effect it had on him and how he was helped in his recovery by the Central Early Supported Discharge team.
Two members, physiotherapist Jodie van Heerden and occupational therapist Lynda Heron, explain the service and how early intervention can improve the quality of life for people who suffer a stroke.
It's a podcast which anyone who has experienced or had a family member or friend affected by a stroke, should listen to.
'Pan fyddaf yn 64' - sut y gwnaeth Rhyddhau'n Gynnar â Chymorth helpu fy adferiad yn dilyn strôc
Ym mhennod ddiweddaraf ein cyfres o bodlediadau, gwnaethom siarad â Peter Walton o Landudno sydd wedi goroesi strôc.
Bu Peter yn rheolwr cartref nyrsio mawr ym Mangor, ac yntau’n gorfforol iach ac yn mwynhau bywyd.
Ar ei ben-blwydd yn 64 oed fis Medi diwethaf, roedd yn paratoi ei hun i fwynhau’r dathliadau yn ei gartref pan ddechreuodd deimlo’n sydyn, o’i roi yn ei eiriau ei hun, fel “pe bai’n cerdded ar y lleuad”.
Aeth ei ferch a’i gyn wraig ato i’w helpu ac o fewn dim o dro, gwnaethant sylweddoli ei fod yn cael strôc.
Gan siarad yn onest, mae’n esbonio’r effaith a gafodd hyn arno a sut y gwnaeth Tîm Rhyddhau’n Gynnar â Chymorth Ardal y Canol ei helpu gyda’i adferiad.
Mae dau aelod, sef Jodie van Heerden sy’n ffisiotherapydd a Lynda Heron sy’n therapydd galwedigaethol, yn esbonio’r gwasanaeth a sut gall ymyrraeth gynnar wella ansawdd bywyd i bobl sy’n dioddef strôc.
Mae’n bodlediad y dylai unrhyw un sydd wedi profi strôc neu sy’n adnabod aelod o’r teulu neu ffrind sydd wedi cael eu heffeithio gan strôc wrando arno.